Cyfarfodydd

P-04-441 : Gwaith i Gymru - Work for Wales

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebwyr ers cryn amser.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael barn y deisebydd a Colegau Cymru.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         ColegauCymru;

·         Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru; a

·         Gyrfaoedd Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y gweinidog am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i gael ei farn am ohebiaeth y Dirprwy Weinidog Sgiliau.

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-441 : Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a thrafododd yr egwyddor o’r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn deisebau gan bleidiau gwleidyddol, neu is-blaid wleidyddol. Cytunodd y Pwyllgor i drafod yn y flwyddyn newydd y mater ehangach o’r ffordd y derbynir deisebau.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Sgiliau i ofyn am ei farn ar destun y ddeiseb.