Cyfarfodydd

P-04-432 : Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion

NDM5828 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2015.

 

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2015.

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.06

NDM5828 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2015.

 

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2015.


Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r Pwyllgor ar ôl iddo drafod y ddeiseb a'r materion ehangach ac i drafod hwn mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-432 - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd ar 11 Tachwedd, a chytunwyd i roi crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, ac ymhelaethu ar y materion ehangach, gan gynnwys rôl y Gwasanaeth Gyrfaoedd mewn ysgolion.

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 P-04-432 - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gasglwyd drwy siarad â grŵp o ddisgyblion yn anffurfiol. Cyfrannodd y canlynol at y drafodaeth: Alex Barons (un o'r staff), Daisy Major, Holly Hinson a Sebastian Collings (disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn).

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r disgyblion a'r staff y bu iddynt gwrdd â nhw yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ac i'r ysgol am ei chroeso cynnes a'i chymorth.

 

 

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu Aelodau’n trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 2 Mehefin. Cytunodd yr Aelodau:

 

  • i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr ‘allbynnau’ a ddymunir wrth ymgysylltu â phobl ifanc mewn ysgolion;
  • i ymgysylltu ag Ysgol Uwchradd y Rhyl, naill ai drwy gynnal ymweliad neu drwy gymryd tystiolaeth fideo, a hynny er mwyn deall ymgysylltiad yr ysgol gyda’r lluoedd arfog; ac
  • i ysgrifennu at Gyrfa Cymru, gan ofyn i’r sefydliad am wybodaeth am ba fathau eraill o gyflogwyr sy’n ymweld ag ysgolion.

Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion: Sesiwn Dystiolaeth

Arfon Rhys, Prif Ddeisebwr

 

Sara Hawys, Ban Schoolyard Recruitment

 

Emma Sangster, Forces Watch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Arfon Rhys, Sara Hawys ac Emma Sangster gwestiynau'r Pwyllgor.

 

Cytunodd Emma Sangster i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am weithgarwch y lluoedd arfog mewn ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

 


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion i’r gwaith ymgynghori a wnaed ar y ddeiseb a chytuno i gael tystiolaeth lafar.


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-432 : Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i lansio ymgynghoriad ysgrifenedig cyhoeddus ar y ddeiseb. Yn dibynnu ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, gallai’r Pwyllgor gynnal sesiynau tystiolaeth lafar.


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn ar y ddeiseb; a

Gwneud cais am bapur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y materion a gafodd eu codi yn y ddeiseb.