Cyfarfodydd

P-04-431 : Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau I Wasanaethau Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried P-04-367, P-04-394, P-04-430 a P-04-431 gyda’i gilydd.

 

Nododd y Cadeirydd y bu ef a Joyce Watson mewn cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan Gyngor Tref Llanelli a Chyngor Gwledig Llanelli ddydd Iau 14 Mawrth gydag Aelod Cynulliad Llanelli a’r dau Aelod Cynulliad arall sy’n cynrycholi rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru i rannu eu barn am gynigion ailstrwythuro Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a’r modd y cyfeiriodd y Cyngor Iechyd Cymuned y rhain at y Gweinidog Iechyd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar bob un o’r deisebau a chytunodd i ysgrifennu at;

 

·         Mark Drakeford yn ei rôl newydd fel y Gweinidog Iechyd, gan ei hysbysu o’r deisebau, gan amlygu’r pryderon am yr amserlen a roddwyd i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

·         bob prif ddeisebwr yn unigol, i roi gwybod iddyn nhw bod gofyn i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda gyflwyno rhagor o wybodaeth i Lywodraeth Cymru erbyn 5 Ebrill. 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau I Wasanaethau Iechyd

I did

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod neilltuol y Bwrdd a pha ystyriaeth benodol a roddwyd o ran darpariaeth yr Uned Babanod Gofal Arbennig, a gofyn sut yr oedd barn y deisebydd yn sail i benderfyniad y Bwrdd Iechyd;

Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ar yr ymarfer ymgynghori ac a oeddent yn teimlo bod y cyhoedd wedi cael digon o wybodaeth i gyfrannu at y cynigion.

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn toriadau i wasanaethau iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda i ofyn ei farn ar y ddeiseb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.