Cyfarfodydd

P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb cadarnhaol y Gweinidog i weithredu terfyn cyflymder o 40mya.


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am ganlyniadau'r adolygiad o derfyn cyflymder; ac

·         ysgrifennu at y deisebydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

 

Cynigiodd Joyce Watson AC gwrdd â'r deisebwyr ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn ddiweddarach.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i;

 

·         dynnu sylw at y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebydd;

·         gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran yr adolygiad o’r terfyn cyflymder;

gofyn iddo gadarnhau y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol; a

·         gofyn faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyflwyno’r terfyn amser diwygiedig os y caiff ei gynnig.


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn am ei farn am y ddeiseb hon; ac

Ysgrifennu at yr awdurdod lleol a Heddlu Dyfed Powys ynghylch diogelwch ar ffordd yr A487.