Cyfarfodydd

P-04-421: Rhwystro Trident rhag dod i Gymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ganlyniad i ddatganiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU nad oes unrhyw ystyriaeth wedi’i roi i symud Trident, cytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Lywodraeth y DU i ofyn a oes unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal â Llywodraeth Cymru;

·         y deisebwyr i geisio eu barn ar ymateb y Prif Weinidog; ac

·         Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i gael ei farn ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Prif Weinidog i ofyn ei farn ar y cais penodol sydd wedi’i nodi yn y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ei farn ar bwnc y ddeiseb.