Cyfarfodydd

P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd yn glir nad yw'n cefnogi moratoriwm ar ddatblygu ffermydd gwynt.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn i'r deisebydd anfon copi o ymateb Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i'w lythyr maes o law; a 
  • gofyn am ragor o wybodaeth gan y Gweinidog am y wybodaeth newydd a gyflwynwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i geisio barn y sefydliad am y ddeiseb a holi a fyddai'n ymchwilio i rai o'r materion a godwyd gan y deisebwyr.

 

 

 

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio yn rhannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn a ellir ystyried y materion sydd wedi’u hamlygu.

 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn rhannu gwybodaeth y deisebydd a gofyn am fanylion pellach ar yr ymchwil i effaith ffermydd gwynt ar dwristiaeth a chynnwys amserlen;

Gofyn am ragor o wybodaeth gan y deisebwyr am y materion a godwyd yn yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar bwnc y ddeiseb;

Aros am ymateb y Gweinidog i adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru ynghylch yr effaith ar dwristiaeth.