Cyfarfodydd

P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb, gan nad yw'n ymddangos yn debygol bod modd gwneud cynnydd yn ei chylch yn y dyfodol agos.

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am ei barn ar sylwadau pellach y deisebydd. 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am:

 

·         ei sylwadau pellach yng ngoleuni barn y deisebwr; ac am

·         ddiweddariad ar y sefyllfa yn ymwneud ag adnewyddu'r Gwasanaeth Premier rhwng y Gogledd a'r De, sydd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Mai a phryd y mae hi'n debygol o allu gwneud cyhoeddiad ar y gwasanaeth cyflym rhwng y Gogledd a'r De.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth:

o   Yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ei datganiad ysgrifenedig a sylwadau’r deisebydd;

o   Yn gofyn am ragor o wybodaeth am ei pharatoadau cyn adnewyddu’r fasnachfraint sy’n ddyledus yn 2018, gan gynnwys sut y bydd yn casglu a choladu gwybodaeth a dderbyniwyd am sylwadau a fynegwyd yn ymwneud â darparu gwasanaethau rheilffyrdd; a

·         thynnu sylw’r deisebydd at y tendr arfaethedig.

 

 

 


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gan ofyn a fyddai modd i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ar y mater.


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i dynnu sylw at yr anawsterau sy’n codi yn sgîl yr amserlennu, ac iddo ystyried y materion hyn yn fanylach, ac i ofyn a fu unrhyw drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Arriva; a

·         rhannu adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig pan gaiff yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn ogystal ag Arriva Trains Wales i ofyn am eu barn.