Cyfarfodydd

P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i gau’r ddeiseb yn wyneb yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, gan nodi nad yw’n bosibl ailenwi cefnffyrdd.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn egluro’r hyn y mae’r deisebwr yn gofyn amdano, a gofyn a yw hyn yn newid ei farn mewn perthynas â’r ddeiseb; a

·         Chomisiynydd y Gymraeg yn ceisio ei barn ar y materion sy’n cael eu codi gan y deisebwr.


Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth sy’n ymwneud â’r ddeiseb hon.

Datganodd William Powell, y Cadeirydd, fuddiant gan ei fod yn ymwneud â’r gwaith o hyrwyddo ailenwi rhan o’r A470 yn ‘Royal Welsh Way’.

Cytunodd y Pwyllgor i geisio barn y deisebwr yn ffurfiol am yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Datganodd William Powell fuddiant yn yr eitem hon, yn ogystal ag eitem 2.10, gan ei fod wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch i ailenwi rhan o’r A470 yn y ‘Royal Welsh Way’.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.