Cyfarfodydd

P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl datganiad diweddar y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau P-04-406 a P-04-411 yn sgîl datganiad diweddar y Gweinidog; ond i gadw P-04-415 ar agor hyd nes bod yr Aelodau wedi cael cyfle i drafod yr ohebiaeth ddiweddar a ddarparwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu ymatebion y deisebydd â’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan amlygu bod gan y ddwy ochr bryderon sylweddol ynghylch y broses ymgynghori, ac i ofyn pa wersi sydd wedi’u dysgu ar gyfer ymarferion ymgynghori yn y dyfodol; ac

·         aros am gasgliadau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Barthau Cadwraeth Morol.

 

 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y tair deiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod y diweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, darparu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad dilynol a gofyn bod deisebwyr y tair deiseb yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad;

Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn a ydynt yn teimlo eu bod wedi cael digon o gyfle i ymgysylltu â’r broses ymgynghori.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Grwpio’r ddeiseb hon gyda deisebau eraill ar yr un pwnc;

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r ddeiseb hon a gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei gamau nesaf.