Cyfarfodydd

P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei hun.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd i longyfarch y deisebydd ar ei waith yn cyflawni gwelliannau o ran gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd rhagddo hyd nes tymor yr hydref 2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ai peidio.

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gysylltu eto ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am fanylion yr amserlenni y mae'n eu bwriadu ar gyfer cynnal yr adolygiad o Fframwaith Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:

 

  • Ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet i ofyn a oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn y gwasanaethau a amlygwyd gan y deisebydd sef:

 

    • cynyddu capasiti gwasanaeth arbenigol anhwylderau bwyta CAMHS a sefydlwyd gan ddefnyddio cyllid blaenorol Llywodraeth Cymru i hyfforddi clinigwyr ledled Cymru;

o   atgynhyrchu’r tîm arbenigol rhanbarthol ar anhwylderau bwyta (tîm SPEED) sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru ac mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd; ac  

 

·         Ystyried cymryd rhagor o dystiolaeth mewn perthynas â’r ddeiseb maes o law yn dibynnu ar yr ymateb a geir.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn iddo am wybodaeth fwy manwl am:

o   sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella darpariaeth gwasanaethau i atal anhwylderau bwyta ymysg plant a phobl ifanc;

o   nifer y plant a phobl ifanc sy'n dioddef o anhwylderau bwyta a gallu'r gwasanaethau presennol i ymdrin â'r galw; ac

  • ar ôl i ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ddod i law, ystyried a ddylid gwneud gwaith pellach ynglŷn â'r ddeiseb neu ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebydd a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn 2017-18 yn cael ei ddefnyddio.

 


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gasglu hanes ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn cau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         ofyn i'r tîm clercio ystyried unrhyw waith a wnaed yn ddiweddar gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta; ac

·         ailystyried y ddeiseb yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 6 Hydref.

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • barhau i gadw golwg ar y ddeiseb a gofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau diweddar y deisebydd; a
  • gofyn i'r Gweinidog am ragor o fanylion ynghylch sut bydd y £7 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer CAMHS yn cefnogi gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n dioddef o anhwylderau bwyta. 

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei sylwadau ar ohebiaeth Ms Missen;

·         Cadw golwg ar y mater a gofyn i’r Gweinidog am gael gwybod am ddatblygiadau: a

·         Rhoi gwybod i’r deisebydd am yr adolygiad o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed sydd i gael ei lansio ddydd Iau 26 Chwefror, i roi cyfle iddo gyflwyno barn pe bai am wneud hynny.

 

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

CYPE(4)-21-14 – Papur 6 i'w nodi

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac

·         thynnu sylw'r deisebydd at Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed; a

·         anfon manylion am y ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y pwyntiau pellach a godwyd gan y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·                     ofyn i'r deisebwyr a ydynt yn fodlon ag

ymateb y Gweinidog;

·                     ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo adolygu'r sefyllfa ar ôl 12 mis ac am ddadl Cyfarfod Llawn ar y mater yn sgîl unrhyw adolygiad; a

·                     gofyn i'r Gwasanaeth Ymchwil lunio papur ynghylch y sefyllfa unwaith y bydd y Gweinidog wedi cynnal adolygiad, gyda’r bwriad o lunio adroddiad Pwyllgor byr efallai i helpu i lywio unrhyw ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Deisebydd

Helen Missen, Deisebydd

 

Susannah Humphrey, Rheolwr Prosiect B-eat Cymru

 

Dr Robin Glaze, Clinigydd Arweiniol ar gyfer gwasanaethau phobl ifanc yng Ngogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Helen Missen, Susannah Humphrey a Dr Robin Glaze gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol

 

Dr Sarah Watkins, Pennaeth Iechyd Meddwl, Troseddwyr a Grwpiau sy’n Agored i Niwed

Cofnodion:

Atebodd Mark Drakeford AC gwestiynau'r pwyllgor, gyda chefnogaeth Jo Jordan a Dr Sarah Watkins. 

 

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         glywed tystiolaeth lafar ynghylch y ddeiseb gan y deisebwyr a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn iddo roi tystiolaeth yn amlygu'r pryderon sydd gan y deisebwr o hyd am y cyllid a'r gwasanaethau annigonol i bobl ag anhwylderau bwyta.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu pryderon BEAT Cymru a’r deisebydd;

·         Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta i ofyn am ei barn ar y ddeiseb; ac

·         yn ddibynnol ar gapasiti, clywed tystiolaeth lafar, o bosibl.

 

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-408 Gwasanaeth i atal anhwylder bwyta ymysg plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at BEAT i ofyn ei farn ar yr ymateb gweinidogol ac i holi a yw o’r farn bod gwasanaethau cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anhwylder bwyta yn ddigonol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar y ddeiseb;

Cyfeirio’r ddeiseb at y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.

 

Nodwyd hefyd y bydd adolygiad o’r fframwaith anhwylderau bwyd ymysg oedolion.