Cyfarfodydd

P-04-402 Gweddïau Cyngor

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i'w chau yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd nad yw'n barod i ddeddfu ar hyn. 

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd a Russell George eu bod yn aelodau o Gyngor Sir Powys. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch yr angen am ddeddfwriaeth;

·         Geisio cyngor cyfreithiol pellach os oes angen; a 

·         ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am eu sylwadau ar ddatganiad y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth gan rannu gohebiaeth a gafwyd gan Un Llais Cymru i dynnu sylw at y ffaith eu bod o blaid yr angen i Lywodraeth Cymru gynhyrchu canllawiau cyfreithiol; ac

·         aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;

 

·         y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a fyddai’n ystyried cyhoeddi nodyn yn crynhoi’r cyngor cyfreithiol a gafwyd ynghylch y mater hwn, fel y gwnaeth CLlLC gais amdano; ac

·         Un Llais Cymru, i ofyn ei farn am y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-402 Gweddïau cynghorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru a Pharciau Cenedlaethol Cymru i ofyn am eu barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb hon.


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol mewn cysylltiad â phwnc y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i lythyr cychwynnol y Cadeirydd.

 


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:

Gael cyngor cyfreithiol am y mater a’i ystyried unwaith eto yn y cyfarfod nesaf;

Ysgrifennu at y Gweinidog am y mater gan amgâu’r wybodaeth a ddaeth i law.