Cyfarfodydd

P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd y pryderon ymarferol, cyfriethiol a moesegol a roddwyd sylw iddynt yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n golygu na fyddai'r fath gofrestr yn ymarferol.  

 


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gael briff cyfreithiol am y ddeiseb ac ystyried cau'r ddeiseb ar ôl i hyn gael ei ystyried.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru r

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad am y ddeiseb a chytunodd i;

 

·         holi barn rhanddeiliaid nad ydynt wedi ymateb i’r ymgynghoriad, ond y gallai eu barn fod yn ddefnyddiol: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Dogs Trust a Cats Protection;

·         ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ofyn a yw Lloegr wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r syniad hwn;

·         ysgrifennu at lywodraethau yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon i ofyn a ydynt wedi ystyried y syniad hwn; ac

·         ymchwilio i’r posibilrwydd o godi hyn yn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig.


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Chwilio am dystiolaeth gytbwys ar y mater, gan gynnwys tystiolaeth gan yr heddlu;

Cynnal ymgynghoriad ar y mater;

Mynd ar ymweliad safle i loches anifeiliaid.

 

 


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon. Cytunodd y Pwyllgor i wneud rhagor o waith ar y mater, a fyddai’n cynnwys:

 

Ysgrifennu at Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu i ofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb; a

Gwneud cais am bapur briffio cyfreithiol ar y materion sy’n ymwneud â sefydlu cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid.

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru r

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i:

ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio ei farn am y ddeiseb; ac

ysgrifennu at grwpiau lles anifeiliaid, gan gynnwys yr RSPCA, i geisio eu barn am y ddeiseb.