Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid Llywodraeth Leol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol

NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y meant yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hystyried gan Senedd y DU.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bill Cyllid Llywodraeth Leol ewch i: http://services.parliament.uk/bills/2012-13/localgovernmentfinance.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Adroddiad

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:14.

 

NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hystyried gan Senedd y DU.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii)

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Canlyniad y bleidlais:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

11

14

52

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 21/06/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol: cytuno ar yr adroddiad

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad, a’i dderbyn. Dywedodd y Cadeirydd y bydd yr adroddiad yn cael ei osod gerbron y Cynulliad erbyn dydd Llun 25 Mehefin 2012.


Cyfarfod: 13/06/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Cyllid Llywodraeth Leol: Sesiwn dystiolaeth

CELG(4)-15-12-papur 3

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwiaethol mewn perthynas â’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol.