Cyfarfodydd

P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb defnyddiol, a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau; ac

·         Ailgysylltu gyda'r deisebydd neu barti arall fyddai â diddordeb i weithredu ar eu rhan, o gofyn eu barn ar yr ohebiaeth ddiweddar.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn diolch iddi am y wybodaeth ddiweddaraf ac yn gofyn iddi roi gwybod i’r Pwyllgor am y datblygiadau, ac am yr ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol. 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am wybodaeth am ganlyniadau'r gwaith o fonitro traffig yn y 12 mis nesaf, ac a oes unrhyw ddatblygiadau pellach gyda'r Asiantaeth Briffyrdd yn Lloegr.

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ddiolch iddi am ei hymateb, i ofyn am gael gwybod am ddatblygiadau, ac i ofyn iddi ystyried sefydlu cydweithgor gyda'r adran drafnidiaeth yn Lloegr.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ailystyried:

·         y ddeiseb yng nghyd-destun papur briffio y Gwasanaeth Ymchwil; a’r

·         llythyr a anfonwyd at  Weindog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gael rhagor o wybodaeth ynghylch unrhyw faes na roddir ateb llawn yn ei gylch yn ei hymateb.


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i;

 

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn holi am ragor o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu ailystyried ei hopsiynau ar hyd cefnffyrdd Cymru gan rannu’r ohebiaeth gan Gyngor Powys; a

·         gofyn am frîff ymchwil ar gytundebau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i hwyluso gweithio tawsffiniol.


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;

 

·         Gyngor Sir Powys i gael ei farn am y ddeiseb; a

·         chael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:

Anfon ymateb y Gweinidog ymlaen at y deisebydd a gofyn am fanylion/cofnodion o faterion diogelwch;

Ysgrifennu at y corff/cyrff priodol i ofyn a oes materion diogelwch ar ochr Lloegr o’r ffin;

Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo drafod y mater â’i swyddog cyfatebol yn Lloegr.

 


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ragor o wybodaeth am gefndir Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant a gofyn a fyddai’n fodlon gweithio gyda’r Gweinidog perthnasol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatrys y problemau a ddisgrifiwyd gan y deisebwyr;

Ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Drafnidiaeth i ofyn a fyddai hi’n fodlon gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatrys y broblem, gan anfon copi at Owen Paterson AS.