Cyfarfodydd

P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb gan nad yw’r safle’n bodloni’r meini prawf i gael ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.


Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd yn ymwneud â’r mater hwn a chytunodd i:

Ysgrifennu at Gyngor Cefn Gwlad Cymru i amlygu pryderon y deisebwyr a gofyn am gyngor ar ddulliau y gallai’r deisebwyr eu mabwysiadu i ddiogelu’r ardal;

Ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn i amlygu pryderon y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Cefn Gwlad Cymru i holi a yw wedi ystyried cais i’r ardal gael ei dynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac, os felly, beth oedd y penderfyniad.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar y pwnc, ac

Ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn i ofyn am ei farn ar y pwnc.