Cyfarfodydd
Cynnig cydsynio ynghylch y Gorchymyn, British Waterways Board (Transfer of Functions) Order
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 - Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
E&S(4)-15-12 papur 9
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.3 Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
Cyfarfod: 29/03/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Cynnig cydsyniad ynghylch y Gorchymyn, British Waterways Board (Transfer of Functions) Order
E&S(4)-13-12 papur 6
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio cael eglurhad o ran pam fod Llywodaeth y DU wedi penderfynu trosglwyddo swyddogaethau’r gorfforaeth gyhoeddus, Dyfrffyrdd Prydain, i ymddiriedolaeth elusennol a elwir yn Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, yn hytrach na’r opsiynau eraill oedd ar gael.
Cyfarfod: 22/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Cynnig cydsynio ynghylch y Gorchymyn, British Waterways Board (Transfer of Functions) Order
Cofnodion:
4.1 Cafodd y Pwyllgor frîff gan y Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Swyddfa Ddeddfwriaeth am y cynnig cydsynio ynghylch y Gorchymyn, the British Waterways Board (Transfer of Functions) Order 2012. Credai’r pwyllgor ei fod arno angen rhagor o wybodaeth cyn y gallai ddod i gasgliad, a byddai’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei gasgliad.