Cyfarfodydd

P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog mewn cysylltiad â’r ddeiseb hon, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at y Gweinidog yn amlinellu ei bryderon am y wybodaeth a gafwyd mewn gohebiaeth;

Hysbysu Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd am unrhyw newidiadau i’r sefyllfa;

Gwneud cais am amserlen y Bil Amgylchedd y gallai Cymdeithas Gŵyr fod yn rhan ohoni;

Hysbysu Llywydd a Chadeirydd Cymdeithas Gŵyr am unrhyw gamau a gymerir gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn gofyn am roi blaenoriaeth i’r ystyriaeth i ymestyn ardal o harddwch naturiol eithriadol Gŵyr cyn gynted ag sy’n gyfleus.

 


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog.