Cyfarfodydd

P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru s

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru s

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb ac yn sgîl gwaith blaenorol y Pwyllgor ar y ddeiseb hon, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd:

 

I ysgrifennu at Benaethiaid Safonau Masnach yng Nghymru i ofyn iddynt a ydynt yn ymwybodol o unrhyw broblemau o’r fath yn eu hardal, ac i gynghori eu haelodau i fod yn ystyriol o’r mater hwn ac i fod yn ymwybodol ohono yn eu hetholaeth; ac

I ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’w hysbysu ynghylch y mater hwn.

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru s

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Llais Defnyddwyr Cymru i ofyn iddo a yw wedi gwneud unrhyw waith i godi ymwybyddiaeth darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau seicig o fesurau i ddiogelu defnyddwyr.

 


Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru s

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried cymryd camau pellach.