Cyfarfodydd

Adroddiad Blynyddol Estyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gwybodaeth ychwanegol gan Estyn yn dilyn y cyfarfod ar 14 Mawrth 2018

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/03/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Adroddiad Blynyddol Estyn - Trafod y sesiwn graffu

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 14/03/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2016 - 2017

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Esytn o ran ei adroddiad blynyddol.

 


Cyfarfod: 22/03/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Gwybodaeth ychwanegol gan Estyn yn dilyn y cyfarfod ar 15 Chwefror

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/03/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn gydag Estyn ar 15 Chwefror

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/03/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn dilyn y sesiwn ar adroddiad blynyddol Estyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/02/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2015 - 2016

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn holi Estyn yn fanwl am ei Adroddiad Blynyddol. Cytunwyd i ddarparu'r canlynol:

 

Nodyn yn egluro'r data ar gyfran yr ysgolion â gweithgarwch dilynol;

 

Nodyn ar ysgolion bro gan gynnwys enghreifftiau o arfer da o beth sy'n gwneud ysgol fro dda.

 

 

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn

NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2016.

Dogfen Ategol
Adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi "mewn ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu" ac yn credu y byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra chymwysedig sy'n cynnal eu datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon, fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi "mewn ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu" ac yn credu y byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra chymwysedig sy'n cynnal eu datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

12

31

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon, fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

18

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.

2. Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2014 - 2015

Estyn

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

Sarah Morgan, Arolygydd EM

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn holi Estyn yn fanwl am ei Adroddiad Blynyddol.

Cytunodd Estyn i roi nifer yr ysgolion nad oedd yn disgwyl eu rhoi mewn mesurau arbennig.


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2013-14

NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2015.

Dogfen Ategol
Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:

a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a

b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion.

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Gwelliant 6 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.31

NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:

a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a

b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.

2. Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:

a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a

b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.

3. Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.

4. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.

5. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion..

6. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

7. Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2013 - 2014

Esytn

CYPE(4)-05-15 – Papur 1

 

Ms Ann Keane, y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol        
Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn mewn perthynas â'i Adroddiad Blynyddol. 


Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rhagor o wybodaeth gan Estyn yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mawrth

CYPE(4)-10-14 – Papur i’w nodi – Papur 7

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2012 - 2013

Estyn

CYPE(4)-08-14 – Papur 3

Ms Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Cymru

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn holi Estyn yn fanwl am ei Adroddiad Blynyddol. Cytunodd y Pwyllgor i anfon y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn ystod y sesiwn i gael ymateb ysgrifenedig iddynt.


Cyfarfod: 21/02/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2011-2012

Estyn

 

Ms Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

 

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

 

Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol 

 

http://www.estyn.gov.uk/download/publications/268359/ar-2011-2012-compendium/

 

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Ms Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol; a Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau ychwanegol gan yr Aelodau, a chytunodd y tystion i’w hateb ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor.

 

Tystiolaeth ychwanegol gan Estyn


Cyfarfod: 23/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Adroddiad blynyddol Estyn - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

  • Adroddiad Blynyddol Estyn

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau y cytunir arnynt y tu allan i’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 25/04/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Adroddiad Blynyddol Estyn: Gwybodaeth ychwanegol gan Estyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/03/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar adroddiad blynyddol Estyn 2010-11

Ann Keane – Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Simon Brown – Cyfarwyddwr Strategol

Meilyr RowlandsCyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tyst. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst am Adroddiad Blynyddol Estyn 2010-11. Oherwydd cyfyngiadau amser, ni ofynnwyd sawl cwestiwn, felly cytunwyd y byddai’r Clerc yn ysgrifennu at y Prif Arolygydd yn gofyn am ei hymateb i’r materion hyn.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd y Prif Arolygydd i baratoi crynodeb o nifer o gasgliadau’r adroddiad sy’n ymwneud â’r bwlch rhwng y ddau ryw ac i’w anfon ymlaen at Gadeirydd y Pwyllgor.


Cyfarfod: 29/03/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Adroddiad blynyddol Estyn: Trafod y camau nesaf

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau y byddant yn cyhoeddi adroddiad ar yr adroddiad blynyddol, ond nodwyd y byddai hyn yn cael ei lunio yn ystod tymor yr haf ar ôl ystyried y wybodaeth ychwanegol gan Estyn.