Cyfarfodydd

P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y materion o dan sylw bellach, yn y bôn, yn fater gweithredol i'r cyngor lleol. 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at  Gyngor Ceredigion yn amlygu pryderon y deisebwr am yr adolygiad annibynnol a gofyn am ei farn am y pryderon hyn.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i ofyn a allai’r Cabinet rannu casgliadau’r adolygiad annibynnol â’r Pwyllgor, a nodi pa gamau gweithredu fydd yn cael eu cymryd o ganlyniad i’r adolygiad.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;

 

·         aros am ganfyddiadau’r adolygiad annibynnol; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i dynnu sylw at y materion sy’n parhau i beri pryder i’r deisebwyr ynghylch y gwasanaethau a ddarperir, ynghyd â’r pryderon am yr adolygiad annibynnol.

 

 


Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn am fanylion yr adolygiad a gynhelir a gaiff ei ddilysu yn allanol, ac i godi materion eraill a godwyd gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ofyn am ymateb gan Gyngor Sir Ceredigion ynghylch y pryderon a amlinellwyd gan y Pwyllgor yn ei ohebiaeth flaenorol.

 


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn nodi pryderon y Pwyllgor a meysydd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Byddai hyn yn cynnwys adolygu’r gwasanaeth newydd gan gorff allanol, ac mae Arweinydd y Cyngor eisioes wedi croesawu’r syniad.

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-366 Cau Canolfan Ddydd Aberystwyth - trafod ymweliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd William Powell y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr ymweliad rapporteur i’r ganolfan ddydd newydd yn Aberystwyth.

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y mater hwn yn y cyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i ddychwelyd at y pwnc ar ôl ymweliad yr Aelodau â’r cyfleusterau newydd ym mis Mehefin.

 

 

 


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Datganodd Joyce Watson fuddiant yn y ddeiseb gan ei bod wedi ymgymryd â gwaith ar y mater yn flaenorol.

 

Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion, fel yr awgrymwyd gan y Dirprwy Weinidog.

 


Cyfarfod: 28/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd.