Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gwasanaethau Ariannol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol
NDM4913 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gwasanaethau Ariannol
fel y’i cyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin ar 26 Ionawr 2012 mewn perthynas â’r Corff
Addysg Ariannol Defnyddwyr (CAAD), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 3 Chwefror 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Dogfennau Ategol
Bil
Gwasanaethau Ariannol – Saesneg yn unig
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 21/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Ystyried yr addroddiad drafft - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 Cytunodd y Pwyllgor
ar yr adroddiad
a nododd y bydd yn cael ei
osod gerbron y Cynulliad.
Cyfarfod: 01/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol
Cofnodion: