Cyfarfodydd

P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Yn dilyn llythyr y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am amserlen ar gyfer cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf i bob safle preswyl a busnes erbyn 2015, yn arbennig y rhai mewn ardaloedd gwledig.

 


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

Wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Llywodraeth yn y maes hwn, yn benodol mewn perthynas â’r pwyntiau a godwyd yn y ddeiseb;

Ysgrifennu at Ofcom i gael ei farn ar y ddeiseb.