Cyfarfodydd

P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ef a'r deisebydd yn ddarpar ymgeiswyr i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru y Cynulliad.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i'w chau.

 

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd, yng ngoleuni sylwadau’r deisebydd, i ysgrifennu at:

 

·         Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Chyngor Sir Penfro yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella canol tref Abergwaun; ac

·         Y deisebydd, yn gofyn a oes unrhyw gamau pellach penodol y gallai’r Pwyllgor eu cymryd i wneud cynnydd o ran y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
  • chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb y deisebydd a'r Cyngor Sir.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at SWWITCH, gan anfon copi at Gyngor Sir Penfro i mewn yn gofyn iddo:

 

  • fonitro'r sefyllfa a rhoi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau yn agosach at y flwyddyn ariannol newydd; ac 
  • ystyried sut y gallai'r cynllun fodloni meini prawf y Cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn well.

 

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at:

 

·                     Gonsortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru, gan ofyn iddo am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar gynigion Abergwaun; a

·                     Chyngor Sir Penfro, gan nodi gohebiaeth Llywodraeth Cymru a chan annog y cyngor i ddatblygu’r gwaith hwn fel rhan o’r fframwaith adfywio newydd.


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn amlygu pryderon y Cyngor ynghylch y cynllun ffordd gyswllt; ac

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gofyn sut bydd y fframwaith adfywio newydd yn cynorthwyo â datblygu gwelliannau, fel y rhai y mae galw amdanynt yn Abergwaun.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i rannu’r wybodaeth a gafwyd gan y deisebwr, nodi’r cyfnod hir y mae’r Pwyllgor wedi bod yn aros am ymateb a nodi’r anawsterau y mae hyn yn eu creu o ran galluogi’r Pwyllgor i ystyried y ddeiseb; ac

·         Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, i ofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau a chyllid digonol i ddwyn y cynllun hwn ymlaen.

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau i’r deisebwr.

 


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r mater hwn.

Cytunodd y Pwyllgor i geisio gwybodaeth am y canlyniadau a’r pwyntiau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar ac i ofyn a yw’r Gweinidog yn ymgysylltu â’r grŵp.

 

 

 


Cyfarfod: 28/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Aros am ymateb gan y Gweinidog;

Ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro a grwpiau mynediad lleol i ofyn am eu barn ynghylch pwnc y ddeiseb.