Cyfarfodydd

SL(5)541 - Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

NDM7329 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2,:

 

Yn cytuno bod Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 29 Ebrill 2020, yn cael eu dirymu.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7329 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2,:

Yn cytuno bod Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 29 Ebrill 2020, yn cael eu dirymu.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

1

43

57

Gwrthodwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 SL(5)541 - Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

CLA(5)-15-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-15-20Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-15-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-15-20 - Papur 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 29 Ebrill 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.