Cyfarfodydd

SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/09/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/08/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

CLA(5)-23-20 – Papur 61 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 15 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

CLA(5)-17-20 – Papur 17 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ar ôl trafod y Gorchymyn yn flaenorol yn y cyfarfodydd ar 4 Mai a 1 Mehefin 2020, trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r pwyntiau a godwyd yn ei adroddiad ar y Gorchymyn, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at faterion yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith.

 


Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

CLA(5)-16-20 – Papur 6 – Adroddiad

CLA(5)-16-20 – Papur 7 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiad o fuddiant gan Suzy Davies AS.

 

Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth a gofynnodd am eglurhad ynghylch mater yn ymwneud â llety gweithwyr amaethyddol.


Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

CLA(5)-13-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-13-20 – Papur 2 – Gorchymyn

CLA(5)-13-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-13-20Papur 4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 30 Mawrth 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.