Cyfarfodydd

Covid 19: Private briefing with Welsh Government

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Covid-19 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Addysg.

 


Cyfarfod: 19/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Covid-19: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AM, y Gweinidog Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SAUDGO

Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau covid-19 gyda'r Gweinidog.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:

·         Sut y byddai’r cymhwyster Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu yn cael ei asesu a,

·         Diweddariad ar y broses ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n aros am atgyfeiriadau.