Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham
NDM7300 - Yr
Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil
Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2019-21
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.56
NDM7300 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 10/02/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/02/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/02/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau’r Gymanwlad Birmingham
CLA(5)-06-20
– Papur 20 –
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
CLA(5)-06-20
- Papur 21 -
Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 2019 Llywodraeth Cymru ar Fil
Gemau'r Gymanwlad Birmingham, Medi 2019
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i gadarnhau na
fyddai'n cyhoeddi adroddiad pellach.
Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Cytunodd
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Cynnig at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gyda dyddiad cau ar
gyfer adrodd ddydd Iau 12 Mawrth.