Cyfarfodydd

NDM7211 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth sy’n deillio o Hunanladdiad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad

NDM7211 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.

2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad.

3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl  hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad.

Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)

Cefnogwyr
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
David Rees (Aberafan)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7211 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.

2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad.

3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl  hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad.

Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)

Cefnogwyr
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
David Rees (Aberafan)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

12

0

47

Derbyniwyd y cynnig.