Cyfarfodydd

P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb y Gweinidog a oedd yn tynnu sylw at gynnydd y Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) a bod swyddogion yn ymgysylltu â Defra ar y mater hwn. Yn sgil y gwaith parhaus ar y mater, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog, yn gofyn pryd y bydd penderfyniad yn debygol o gael ei wneud ar y mater hwn.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) - Y wybodaeth ddiweddaraf yn sgil gwaith ymchwil newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pa ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i adroddiad Ysgol Economeg Llundain ar allu decapodau i ymdeimlo, ac awgrymwyd hefyd y dylid ehangu’r diffiniad o anifeiliaid yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 i gynnwys infertebratau.

 


Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg tan ddiwedd tymor y Senedd, ac ystyried y ddeiseb eto, pe cyhoeddir canfyddiadau adolygiad a gomisiynwyd yn ddiweddar o ymdeimlad mewn cramenogion dectroed cyn yr amser hwnnw.

 

 


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd hyd yma gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau o dan Adran 1 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i ymestyn y diffiniad o “anifail’ i gynnwys infertebratau ar sail lles anifeiliaid, a pha dystiolaeth sydd wedi'i hystyried fel rhan o hyn.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         Ofyn am friff cyfreithiol ar newidiadau posibl i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a roddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.