Cyfarfodydd

P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, oherwydd bod cefnogaeth a pholisïau lleol ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent yn fater i'r awdurdod lleol ac mai’r ffordd orau o’u dwyn ymlaen fyddai drwy graffu gan ei aelodau a'i bwyllgorau ei hun, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i anfon cwestiynau pellach y deisebydd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a gofyn i'r Cyngor ymgysylltu'n uniongyrchol â Chymuned Fusnes Ebwy Fawr ar y materion a godwyd.

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Gyngor Blaenau Gwent unwaith yn rhagor i ofyn am ymateb i'r ohebiaeth flaenorol, gan ystyried effaith ddilynol y pandemig Covid-19; a

·         Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd y gwaith a wnaed gan Dasglu'r Cymoedd, gweithredu'r cynllun cyflawni a pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru eu Strategaeth ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor yn  sgîl Covid-19.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Gyngor Blaenau Gwent i ofyn am ei farn ar y ddeiseb a darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, yr heriau a wynebir a’u cynlluniau ar gyfer gwella gwasanaethau, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd a allai godi yn sgîl Bil Bysiau (Cymru) yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i ofyn am ei farn ar y materion a godwyd.