Cyfarfodydd

NDM7197 Dadl: Adroddiad Blynyddol Gwella Canlyniadau i Blant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Gwella Canlyniadau i Blant

NDM7197 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu Adroddiad Blynyddol cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant.

Gwella canlyniadau i blant: adroddiad blynyddol 2019

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod y cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yn deillio o nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys llymder a thlodi rhwng y cenedlaethau.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am aildrefnu'r system i ganolbwyntio adnoddau ar atal er mwyn amddiffyn plant a gwella eu canlyniadau.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi defnyddio targedau caeth i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7197 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu Adroddiad Blynyddol cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod y cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yn deillio o nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys llymder a thlodi rhwng y cenedlaethau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

13

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am aildrefnu'r system i ganolbwyntio adnoddau ar atal er mwyn amddiffyn plant a gwella eu canlyniadau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi defnyddio targedau caeth i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

9

1

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7197 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu Adroddiad Blynyddol cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant.

2. Yn cydnabod bod y cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yn deillio o i nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys llymder a thlodi rhwng y cenedlaethau

3. Yn galw am aildrefnu'r system i ganolbwyntio adnoddau ar atal er mwyn amddiffyn plant a gwella eu canlyniadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi defnyddio targedau caeth i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

9

1

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.