Cyfarfodydd

SL(5)471 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

NDM7216 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2019. 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

NDM7216 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2019. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 


Cyfarfod: 02/12/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 SL(5)471 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

CLA(5)-33-19 – Papur 3 – Adroddiad

CLA(5)-33-19 – Papur 4 – Gorchymyn

CLA(5)-33-19 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-33-19 - Papur 6 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 14 Tachwedd 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.