Cyfarfodydd
NDM7206 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru Cyllid
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllid Llywodraeth Cymru
NDM7206 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod Cymru'n
elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
2. Yn nodi bod Cymru, o
ganlyniad i'r Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arni rhwng Llywodraethau Cymru a'r
DU, yn cael £1.20 y pen ar hyn o bryd am bob £1 y pen a gaiff ei gwatio yn
Lloegr ar faterion datganoledig.
3. Yn croesawu'r £790
miliwn ychwanegol sy'n fwy na grant bloc Cymru sydd wedi cael ei ymrwymo gan
Lywodraeth y DU tuag at Gytundebau Twf ledled Cymru.
4. Yn cydnabod bod y
cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar ei lefel uchaf erioed.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) defnyddio unrhyw
adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fwy o fuddsoddiad ar y GIG gan
Lywodraeth y DU i wella gwasanaeth iechyd Cymru;
b) defnyddio unrhyw
adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fuddsoddiad cynyddol ar addysg gan
Lywodraeth y DU i wella system addysg Cymru;
c) diystyru unrhyw
godiadau mewn trethi neu drethi newydd yng Nghymru rhwng nawr a'r etholiad
nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod Llywodraethau
olynol yn San Steffan - o dan Lafur a'r Ceidwadwyr - wedi llywyddu dros dlodi
rhwng cenedlaethau a thanfuddsoddiad cronig yng Nghymru.
2. Yn credu mai
dylanwadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw'r allwedd i ffyniant
economaidd Cymru yn y dyfodol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla
Barnett fel rhan o gytundeb y Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.
Yn gresynu bod
Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na Llywodraeth Cymru mewn meysydd cyfrifoldeb
pwysig ledled Cymru sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y seilwaith rheilffyrdd
a chysylltedd digidol.
Yn nodi bod cylch
gwario blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar ei cholled
o £300 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11 ac yn condemnio degawd o
gyni anghyfiawn a osodwyd gan y DU
Yn nodi, er gwaethaf y
pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r Dadansoddiad yn ôl Gwlad a
Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:
a) bod gwariant y pen
ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o
bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn Lloegr;
b) bod gwariant y pen ar
addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r gwariant y pen yn Lloegr.
Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau Cymreig y Dreth Incwm yn ystod
tymor y Cynulliad hwn.
Ystadegau
Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth 2019 (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.30
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7206 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
2. Yn nodi bod Cymru, o ganlyniad i'r Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arni
rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, yn cael £1.20 y pen ar hyn o bryd am bob £1 y
pen a gaiff ei gwario yn Lloegr ar faterion datganoledig.
3. Yn croesawu'r £790 miliwn ychwanegol sy'n fwy na grant bloc Cymru sydd
wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth y DU tuag at Gytundebau Twf ledled Cymru.
4. Yn cydnabod bod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar ei lefel
uchaf erioed.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fwy o
fuddsoddiad ar y GIG gan Lywodraeth y DU i wella gwasanaeth iechyd Cymru;
b) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i
fuddsoddiad cynyddol ar addysg gan Lywodraeth y DU i wella system addysg Cymru;
c) diystyru unrhyw godiadau mewn trethi neu drethi newydd rhwng nawr a’r etholiad nesaf i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
1 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod
Llywodraethau olynol yn San Steffan - o dan Lafur a'r Ceidwadwyr - wedi
llywyddu dros dlodi rhwng cenedlaethau a thanfuddsoddiad cronig yng Nghymru.
2. Yn credu mai
dylanwadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw'r allwedd i ffyniant
economaidd Cymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
38 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla
Barnett fel rhan o gytundeb y Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.
Yn gresynu bod
Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na Llywodraeth Cymru mewn meysydd
cyfrifoldeb pwysig ledled Cymru sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y seilwaith
rheilffyrdd a chysylltedd digidol.
Yn nodi bod cylch gwario
blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar ei cholled o £300
miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11 ac yn condemnio degawd o gyni
anghyfiawn a osodwyd gan y DU
Yn nodi, er gwaethaf y
pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r Dadansoddiad yn ôl Gwlad a
Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:
a) bod gwariant y pen ar
iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o
bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn Lloegr;
b) bod gwariant y pen ar
addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r gwariant y pen yn Lloegr.
Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau Cymreig y Dreth Incwm yn ystod
tymor y Cynulliad hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
22 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7206 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n
seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla Barnett fel rhan o gytundeb y
Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.
3. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na
Llywodraeth Cymru mewn meysydd cyfrifoldeb pwysig ledled Cymru sydd heb eu
datganoli, gan gynnwys y seilwaith rheilffyrdd a chysylltedd digidol.
4. Yn nodi bod cylch gwario blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod
Llywodraeth Cymru ar ei cholled o £300 miliwn mewn termau real o gymharu â
2010-11 ac yn condemnio degawd o gyni anghyfiawn a osodwyd gan y DU
5. Yn nodi, er gwaethaf y pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r
Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:
a) bod gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng
Nghymru nag yn unrhyw un o bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn
Lloegr;
b) bod gwariant y pen ar addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r
gwariant y pen yn Lloegr.
6. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau
Cymreig y Dreth Incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
22 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.