Cyfarfodydd

SL(5)470 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 - TYNNWYD YN ÔL

NDM7209 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Tachwedd 2019, yn cael eu dirymu.

 

 

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl

 


Cyfarfod: 02/12/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 SL(5)470 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

CLA(5)-33-19 - Papur 2 - Llythyr gan Gymdeithas y Landlordiaid Preswyl, 22 Tachwedd 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gymdeithas y Landlordiaid Preswyl.