Cyfarfodydd
P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
5 P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 215 KB Gweld fel HTML (5/1) 12 KB
- 23.03.20 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 5 PDF 251 KB
Cofnodion:
Ar y sail bod
Llywodraeth Cymru yn glir bod y Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn hyrwyddo
hyblygrwydd ac na fydd yn cyflwyno rhestr fanwl o bynciau sy’n rhaid i ysgolion
eu haddysgu, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer pellach y gellid ei gyflawni.
Cytunodd i gau'r ddeiseb.
Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 119 KB Gweld fel HTML (3/1) 12 KB
- 04.02.20 - Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 271 KB
- 19.02.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 127 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg
i rannu’r pryderon a fynegwyd gan Endometriosis UK ac i ofyn am ymateb i’r
cwestiynau maent yn eu codi o ran sut y rhoddir gwybodaeth i ddisgyblion am y
cylchred mislifol a llesiant mislifol.
Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 119 KB Gweld fel HTML (2/1) 12 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 155 KB
- 06.11.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 268 KB
- 10.12.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 177 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog Addysg i ofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ychwanegu
cyfeiriad penodol at lesiant mislifol yn natganiad Yr Hyn sy’n Bwysig ar iechyd
a llesiant corfforol, fel y’i cynigiwyd gan Endometriosis UK.