Cyfarfodydd

P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg. Yn sgil sawl ymateb clir gan y Gweinidog nad yw cyllid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau addysg yn eu hardaloedd yn cael ei neilltuo, mae’r adolygiad diweddar o gyllid ysgolion a’r gwaith monitro arfaethedig o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y pwynt hwn a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar ddinas ADY

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am:

·         amlinelliad o'r camau nesaf ar gyfer cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru yn ddiweddar ac yng ngoleuni'r pryderon a fynegwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a

·         gwybodaeth am ba gyllid a ddarperir i gefnogi diagnosis anghenion dysgu ychwanegol.

 

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         aros am farn bellach gan y deisebydd i’r ymateb a roddwyd gan y Gweinidog Addysg; ac

·         ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am wybodaeth am y dull a ddefnyddir gan awdurdodau lleol wrth ddyrannu cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.