Cyfarfodydd
NDM7155 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod l - Ddefnyddio Plastigau Untro
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Defnyddio Plastigau Untro
NDM7155 Huw
Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) lleihau'n sylweddol
y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol
gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff
plastig;
b) cyflwyno trethi ac
ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau
untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;
c) cyflwyno cynllun
gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i
leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro;
d) pennu targedau a
cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.
Cefnogwyr
Andrew
R.T. Davies (Canol De Cymru)
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM7155 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.
2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a)
lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r
ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran
lleihau gwastraff plastig;
b)
cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o
gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;
c)
cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o
fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro;
d)
pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.
Cefnogwyr
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.