Cyfarfodydd

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

NDM7385 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2020.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.34

NDM7385 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2020.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 12/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 4

Yr Athro Kent Matthews, Athro Bancio a Chyllid Syr Julian Hodge, Ysgol Fusnes Caerdydd

Dr Long Zhou, Myfyriwr ymchwil, Ysgol Fusnes Caerdydd

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Ysgol Fusnes Caerdydd

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: yr Athro Kent Matthews, athro bancio a chyllid Syr Julian Hodge, Ysgol Fusnes Caerdydd; a Dr Long Zhou, myfyriwr ymchwil, Ysgol Fusnes Caerdydd.

 


Cyfarfod: 12/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 12/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 5

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Polisi Strategaeth Treth ac Ymgysylltu, Llywodraeth Cymru

Tom Nicholls, Cynghorydd Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Llywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Anna Adams, dirprwy gyfarwyddwr, pennaeth polisi strategaeth treth ac ymgysylltu, Llywodraeth Cymru; a Tom Nicholls, cynghorydd economaidd, Llywodraeth Cymru.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion ynghylch nifer y rhai a gyflogir yn y sector cyhoeddus sy'n talu’r gyfradd uwch o dreth incwm yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 04/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 04/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 3

Yr Athro James Foreman-Peck, Athro Economeg, Prifysgol Caerdydd

 

Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig: James Foreman-Peck a Peng Zhou, Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig)

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro James Foreman-Peck, Athro Economeg, Prifysgol Caerdydd ar effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol.

 


Cyfarfod: 27/02/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 27/02/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 2

Ed Poole, Uwch-ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Caerdydd

Guto Ifan, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd

David Bradbury, Pennaeth yr Is-adran Polisi Trethi ac Ystadegau, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

Bert Brys, Pennaeth Uned Polisi Trethi Gwledydd ac Uned Trethi Personol ac Eiddo, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

 

Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig: Dadansoddi Cyllid Cymru (Saesneg yn unig)

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Caerdydd; Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd; David Bradbury, Pennaeth yr Is-adran Polisi Trethi ac Ystadegau, OECD (drwy Skype); Bert Brys, Pennaeth Uned Polisi Trethi Gwledydd ac Uned Trethi Personol ac Eiddo, OECD (drwy Skype); a Sean Dougherty, Uwch Gynghorydd, OECD (drwy Skype) am effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol.

 


Cyfarfod: 27/02/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 1

David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid

 

Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig: Institute for Fiscal Studies (Saesneg yn unig)

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Phillis, Cyfarwyddwr Cysylltiol, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid am effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol.

 


Cyfarfod: 29/01/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r tystion

Papur 3 – Papur eglurhaol

Ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chytuno ar ei restr o dystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar.

 


Cyfarfod: 25/09/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Papur cwmpasu: Effaith amrywiadau mewn trethi Cenedlaethol ac Is-genedlaethol

Papur 4 – Papur cwmpasu: Effaith amrywiadau mewn trethi cenedlaethol ac is-genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.