Cyfarfodydd

P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ymatebion oddi wrth y Gweinidog Addysg, yn enwedig mewn perthynas â hyblygrwydd a natur y cwricwlwm newydd, sy’n golygu mai’r ysgol sy’n arwain, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarchwyd y deisebydd ar fod yn esiampl i bobl eraill wrth hybu Makaton i gefnogi plant ag anawsterau cyfathrebu ac fe anogir iddi barhau i godi'r cynnig, gan gynnwys gydag ysgolion lleol.

 

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg, gan nodi y bydd ysgolion yn gallu penderfynu pa ‘ieithoedd rhyngwladol’ sydd fwyaf priodol i’w hamgylchiadau penodol o dan y cwricwlwm newydd, a gofyn pa gyfleoedd fyddai yna i Lywodraeth Cymru (neu eraill) annog neu gefnogi darpariaeth fwy anffurfiol o Makaton mewn ystafelloedd dosbarth, er enghraifft drwy ddysgu arwydd dyddiol.

 

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn:

·         pa gyfleoedd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru hyrwyddo’r manteision o roi cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu Makaton, neu fathau eraill o iaith arwyddion, mewn ysgolion yng Nghymru, naill ai drwy'r cwricwlwm newydd neu ddulliau eraill; a

·         pha gyfleoedd eraill sydd ar gael i ddysgu Makaton, megis dosbarthiadau addysg i oedolion, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.