Cyfarfodydd

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) - 7 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl: Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau Ategol
Datganiad y Llywydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.04

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar Gyfnod 3 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

Barnwyd bod holl adrannau‘r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.


Cyfarfod: 11/12/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gymdeithas Gwarchod Meddygol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 11/12/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafodion Cyfnod 2

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Rhestr o Welliannau wedi'u didoli

Papur 2 - Grwpio Gwelliannau

Papur 3 - Y drefn bleidleisio ar gyfer gwelliannau a gyflwynwyd

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 O dan reol sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad meddygol yn y gorffennol tra’n gweithio fel meddyg.

2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, trafododd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil, a’u gwaredu:

Gwelliant 1 (Angela Burns): cafodd y gwelliant hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor.

Gwelliant 2 (Angela Burns): cafodd y gwelliant hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor.

2.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd y bernir bod holl adrannau’r Bil a’r holl atodlenni iddo wedi cael eu cytuno. Yn sgil hynny, mae trafodion Cyfnod 2 wedi'u cwblhau.

 


Cyfarfod: 27/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

NDM7190 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

NDM7190 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

NDM7189 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).

Gosodwyd Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 14 Hydref 2019;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) ar 12 Tachwedd 2019.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

NDM7189 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).

Gosodwyd Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 14 Hydref 2019;

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 13/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 07/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 07/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gymdeithas Gwarchod Meddygol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 07/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1   Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad.

 


Cyfarfod: 07/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Goblygiadau ariannol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 6 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.


Cyfarfod: 04/11/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Adroddiad drafft

CLA(5)-30-19 – Papur 27 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) cyn cytuno arno (yn amodol ar fân newidiadau).  Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 12 Tachwedd 2019.

 


Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Alex Slade, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Tim Edds, Cyfreithiwr, Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

 

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Alex Slade, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru; a Tim Edds, Cyfreithiwr, Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth ac ystyried themâu sy'n codi

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y themâu allweddol i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Sefydliadau Amddiffyn Meddygol

Mary-Lou Nesbitt, Pennaeth Cysylltiadau Llywodraethol ac Allanol, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol

Dr Matthew Lee, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol

Emma Parfitt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynghori  a Chyfreithiol, Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban

David Sturgeon, Cyfarwyddwr Datblygu, Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban

 

Papur 3 - Yr Undeb Amddiffyn Meddygol

Papur 4 - Y Gymdeithas Amddiffyn Meddygol

Papur 4a – Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant.

4.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliadau Amddiffyn Meddygol.

 


Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Frances Duffy, Cyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

 

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) – Memorandwm Esboniadol

 

Briff ymchwil

 

Papur 1 – Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru

Papur 2 – Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Papur 2a – Addysg a Gwella Iechyd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad meddygol yn y gorffennol. Cadarnhaodd nad oes unrhyw fuddiant penodol ar hyn o bryd gan fod indemniad bellach yn cael ei dalu ar lefel practis, ac nid ar lefel bersonol.

3.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

3.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch trosglwyddo asedau.

 


Cyfarfod: 21/10/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 21/10/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Frances Duffy - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru

Neil Buffin, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-29-19 – Papur briffio 1

CLA(5)-29-19 – Papur 1 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 14 Hydref 2019

 

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.41


Cyfarfod: 09/10/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn friffio dechnegol

Alex Slade, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Ken Alexander, Pennaeth Indemniad Proffesiynol Meddygon Teulu, Llywodraeth Cymru

Andrew Hobden, Economegydd, Llywodraeth Cymru

Tim Edds, Cyfreithiwr, Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

2.1     Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) sydd i ddod.


Cyfarfod: 08/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 84

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr amserlen a nodi'r sylwadau yn y llythyr.

 

 


Cyfarfod: 07/10/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Briff technegol

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru

Ken Alexander, Pennaeth Indemniad Proffesiynol Meddygon Teulu, Llywodraeth Cymru

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Cyfreithiwr - Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).


Cyfarfod: 03/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): trafod yr amserlen ddrafft

 

Papur 5 – Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): trafod yr amserlen ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer y Bil.

 


Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Amserlen ar gyfer Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 93

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ystyried ei egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.