Cyfarfodydd

P-04-355 Cymru nid Wales

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-355 Cymru nid Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. Gan ystyried bod y Prif Weinidog a’r Llywydd wedi datgan nad ydynt yn bwriadu defnyddio ‘Cymru’  yn lle ‘Wales’, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-355 Cymru nid Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at y Deisebydd yn ei gynghori nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru y pŵer i newid yr enw’n swyddogol.

Ceisio cyngor annibynnol ynghylch tarddiad y gair ‘Wales’.

Ysgrifennu at y Prif Weinidog a Chomisiwn y Cynulliad, wrth aros am ymateb y deisebydd, yn gofyn am eu barn ynghylch newid yr enw’n answyddogol.