Cyfarfodydd

P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn.

 

Cam i’w gymryd

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd a chytunodd i aros am ymateb gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol.

 


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol, rhoddodd Bethan Jenkins y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei Datganiad o Farn ar y mater a godir yn y ddeiseb. Dywedodd y byddai’n rhoi gwybod i ymgyrch Bradley Manning pryd y bydd cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol yn cael ei gynnal.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd er mwyn tynnu ei sylw at y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at y Swyddfa Gyflwyno yn gofyn am gadarnhad o’r canllawiau ynghylch Datganiadau Barn;

Ysgrifennu at Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a’r Prif Weinidog yn gofyn am eu barn.