Cyfarfodydd
NDM7141 Dadl y Blaid Brexit - Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Blaid Brexit - Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd
NDM7141 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi
aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad
amhenodol.
2. Yn nodi bod Cymru,
fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb
Ewropeaidd.
3. Yn cefnogi
datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae
rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll
teithwyr rheilffyrdd ac awyr.
4. Yn nodi'r rhan a fu
gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad
Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r
A55.
5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4
drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan.
Cytuniad
yn sefydlu Cymuned Economaidd Ewrop
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 1 “ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau
rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei
diwygio mewn modd radical”.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 2 “ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir
sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE”.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 3, yn lle
“fel toll”, rhoi “fel plismona a chyfiawnder a tholl”.
Gwelliant 4 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
y DU:
a) i gryfhau ei hymrwymiad
i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif
linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng
Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;
b) i ddarparu cyllid
llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn
ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd
orau o’i ddefnyddio.
[Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 5, ar ôl
'gwelliannau i'r', ychwanegu 'seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys yr'.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7141 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain
Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.
2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei
chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a
fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o
ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr.
4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y
gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â
rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r
A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd
Cymru a'r DU gyfan.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
42 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 “ond yn credu bod angen i’r
ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd
datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
8 |
13 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2 “ond yn credu, yn sgil
profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru
heb i’r DU aros yn yr UE”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
15 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 3, yn lle “fel toll”, rhoi “fel plismona a
chyfiawnder a tholl”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
6 |
15 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
y DU:
a) i gryfhau ei
hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r
prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng
Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;
b) i ddarparu cyllid
llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn
ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd
orau o’i ddefnyddio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Gan fod gwelliant
4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7141 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain
Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol ond yn credu bod angen i’r ffordd
y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a
Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical.
2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei
chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ond yn credu, yn sgil
profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru
heb i’r DU aros yn yr UE.
3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a
fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o
ddatganoli o'r fath, fel toll fel plismona a chyfiawnder a tholl teithwyr
rheilffyrdd ac awyr.
4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y
gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â
rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.
5. Yn
galw ar Lywodraeth y DU:
a)
i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft
drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi
mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;
b)
i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os
bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o
ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
22 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.