Cyfarfodydd

P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan fod y ddeiseb yn galw am ymchwiliad barnwrol annibynnol i’r broses o reoli Rhaglen De Cymru a’i rhoi ar waith, a bod hynny wedi'i ddiystyru'n benodol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – ac yn sgil y penderfyniad diweddar i gadw'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg – cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y rhai a gymerodd ran ar y ffaith bod yr ymgyrch i gadw gwasanaethau’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty wedi llwyddo.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn am ei ymateb i’r materion a godwyd ac i ofyn am ragor o wybodaeth am statws cyfredol y newidiadau a weithredwyd o dan Raglen De Cymru; a

·         gwahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol, unwaith y bydd y Pwyllgor yn dechrau ystyried y ddeiseb ar newidiadau i’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ymateb uniongyrchol i alwad y ddeiseb am ymchwiliad annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn benodol.

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, er ei fod yn nodi ei fod yn cefnogi’r materion y mae'n eu codi mewn egwyddor, cytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.