Cyfarfodydd

P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y bwriad i gyflwyno'r Bil Bysiau (Cymru) a'r gwaith craffu a fyddai’n cael ei wneud yn ei chylch gan y Cynulliad a phwyllgor arall yn ystod y broses ddeddfwriaethol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd i roi gwybodaeth iddo am sut y gall ymgysylltu â'r broses graffu ddeddfwriaethol er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y Bil.

 


Cyfarfod: 01/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y newidiadau y mae'n bwriadu eu cyflwyno drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus, yn enwedig ynghylch masnachfreinio a phwerau i awdurdodau lleol redeg gwasanaethau bysiau, a'r amserlen a gynlluniwyd ar gyfer cyflwyno'r Bil.