Cyfarfodydd

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2019-20

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i adroddiad y Pwyllgor ar graffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2019-20 - 19 Awst 2019

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - Cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 - 5 Gorffennaf 2019

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020

NDM7096 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Ategol:

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7096 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

18

0

45

 

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 03/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 27/06/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 27/06/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru

Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau a Pholisi Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-20

Briff ymchwil 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r Pwyllgor ar y trefniadau cyllido pensiwn ar gyfer staff cymorth mewn ysgolion.