Cyfarfodydd
NDM7100 Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
NDM7100 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid
Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:
a) iechyd meddwl a llesiant emosiynol;
b) sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac
c) sbwriel a gwastraff plastig.
2. Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i
gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i
ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.
3. Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n
amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i
gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, gwahoddodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r
Pwyllgor Busnes, wyth Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn
nhrafodion y Cynulliad at ddibenion yr eitem hon ar y cyd. Roedd 31 Aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn y Siambr ar gyfer yr eitem.
NDM7100 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid
Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:
a) iechyd meddwl a llesiant emosiynol;
b) sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac
c) sbwriel a gwastraff plastig.
2. Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i
gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i
ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.
3. Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n
amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i
gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.
Datganiad -Senedd
Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad
Yn unol â Rheol Sefydlog
11.15(ii), cynhaliwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon ar ddiwedd y
ddadl.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Am 14.15,
cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 15 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5
munud cyn ailgynnull.
Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Eitem fusnes ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru - trefniadau manwl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a daethant i'r casgliad mai eu dewis oedd cael
pleidlais ar y cynnig, yn hytrach nag iddo gael ei dderbyn heb bleidleisio
arno. Siaradwyr y grwpiau ar gyfer yr eitem fydd Arweinwyr y Pleidiau, ac
eithrio Plaid Cymru lle y bydd Rhun ap Iorwerth yn siarad. Gofynnodd y Llywydd
i Reolwyr Busnes annog eu Haelodau i fod yn bresennol ar gyfer y ddadl.