Cyfarfodydd
NDM7065 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Leihau Gwastraff Plastig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Lleihau Gwastraff Plastig
NDM7065 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y
pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff
plastig.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd
amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y
cyhoedd.
3. Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal
ar gyfer cynwysyddion diodydd.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig
eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff plastig y gellir ei osgoi drwy
hefyd:
a) gwahardd cyflenwi
gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau;
b) atal y cyflenwad o
ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; ac
c) gwahardd trowyr
diodydd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le:
1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y
mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.
2. Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad
yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau
cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei
allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys
menter Cenedl Ail-lenwi.
5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn
parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun
dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.
6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd
trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr
Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau
plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a
thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am wahardd
deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy,
a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.46
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7065 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei
roi ar leihau gwastraff plastig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er
mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a
chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno
cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a
chenhedloedd datganoledig eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff
plastig y gellir ei osgoi drwy hefyd:
a) gwahardd cyflenwi gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau;
b) atal y cyflenwad o ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at
ddefnydd gwyddonol; ac
c) gwahardd trowyr diodydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
26 |
38 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le:
1. Yn cydnabod y
pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff
plastig.
2.Yn cydnabod bod Cymru
ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn
62.7 y cant.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd
amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y
cyhoedd.
4. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan
gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.
5. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar
gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.
6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd
trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr
Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau
plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
17 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a
thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
0 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am wahardd
deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy,
a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
0 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7065 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y
pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff
plastig.
2.Yn cydnabod bod Cymru
ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn
62.7 y cant.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd
amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y
cyhoedd.
4. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan
gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.
5. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar
gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.
6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd
trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr
Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau
plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.
7. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a
thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.
8. Yn galw am wahardd
deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy,
a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
5 |
38 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.