Cyfarfodydd

P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail bod y Gweinidog Addysg wedi darparu ei rhesymeg dros ddarparu asesiadau safonol i fesur gallu plant mewn llythrennedd a rhifedd gan ddechrau o Flwyddyn 2, ac yn sgil y ffaith bod asesiadau personol ar-lein newydd wrthi’n cael eu cyflwyno.

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg i ofyn am y cyfiawnhad penodol dros ddefnyddio asesiadau personol ar-lein gyda phlant o chwech oed ymlaen, a sut y mae hyn yn gydnaws ag ysbryd y cyfnod sylfaen.

 

 


Cyfarfod: 01/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ei hymateb i'r pryderon a fynegwyd [?]  gan y deisebydd ynghylch yr angen i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion a'r cwestiynau, yn sgil cyflwyno asesiadau personol ar-lein yn raddol.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau’r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb.