Cyfarfodydd

P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy a Michelle Brown y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Maent yn Aelodau Cynulliad rhanbarthol nad ydynt yn aelodau mwyach o’r pleidiau y cawsant eu hethol i’w cynrychioli.

 

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2019 wedi’i phasio, ac oherwydd diffyg cysylltiad â’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar yr ymateb a roddwyd gan y Llywydd ac i annog y deisebydd i ymgysylltu â'u cynrychiolwyr etholedig i fwrw ymlaen â gwelliannau deddfwriaethol i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).